Help a chymorth
Gall y rhwydweithiau ynni helpu os bydd gennych anghenion ychwanegol oherwydd eich amgylchiadau meddygol neu bersonol.
Gwasanaeth am ddim er mwyn helpu pobl sydd ag anghenion ychwanegol yw’r Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth. Mae ar gael i gwsmeriaid yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Gallwch ymuno drwy gysylltu â’ch gweithredwr rhwydwaith lleol a’ch cyflenwr ynni. Bydd gan bob un ei gofrestr ei hun. Gallwch weld pwy yw eich gweithredwr rhwydwaith lleol drwy roi eich cod post i mewn ar ein tudalen hafan.
Pa gymorth sydd ar gael?
Bydd y math o help sydd ar gael yn amrywio yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’r cymorth y gall eich gweithredwr rhwydwaith lleol ei gynnig. Gall pob gweithredwr rhwydwaith gynnig:
-
rhybudd ymlaen llaw cyn toriadau pŵer wedi'u cynllunio. Os ydych chi’n dibynnu ar eich cyflenwad ynni am resymau meddygol, bydd eich gweithredwr rhwydwaith yn gallu rhoi gwybod i chi am doriadau pŵer wedi'u cynllunio. Er enghraifft, pryd y bydd gwaith peirianneg wedi’i drefnu.
-
cymorth â blaenoriaeth yn ystod toriad pŵer hir. Gall gweithredwyr rhwydwaith ddarparu cyfleusterau gwresogi a choginio neu lety a chadw mewn cysylltiad a rhannu gwybodaeth yn uniongyrchol, er enghraifft dros y ffôn.
-
cynllun dull adnabod a chyfrinair. Gallai hyn gynnwys trefnu cyfrinair neu luniau a fydd ond yn hysbys i chi a’ch gweithredwr rhwydwaith lleol. Bydd y gweithredwr rhwydwaith yn defnyddio’r dulliau adnabod hyn er mwyn i chi allu teimlo'n hyderus bod unigolion yn dweud y gwir os byddant yn dweud bod angen iddynt ymweld neu gysylltu â chi.
Gan fod toriadau pŵer yn gallu digwydd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, mae'n bwysig eich bod yn paratoi ac yn gwybod beth i'w wneud.
Nid yw'r Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth yn gwarantu cyflenwad pŵer parhaus. Mae'n bwysig bod gennych gynllun ar gyfer toriadau pŵer, yn enwedig os ydych yn ddibynnol ar bŵer er mwyn defnyddio offer meddygol. Dylech drafod eich cynllun gyda’ch meddyg teulu neu’ch darparwr gofal iechyd a sicrhau eich bod yn gwybod am faint y bydd eich cyflenwad pŵer wrth gefn yn para.