Iawndal
Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i gael iawndal os cewch chi doriad pŵer.
Bydd yr hyn y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar y canlynol:
- ai gwaith wedi’i gynllunio oedd y rheswm dros y toriad pŵer
- am faint o amser y buoch heb bŵer
- a fethodd gweithredwr rhwydwaith â chyrraedd safonau a bennwyd gan Ofgem, sef y rheoleiddiwr ynni ym Mhrydain Fawr
Yr hyn y gallwch ei hawlio
Iawndal am doriadau pŵer mewn tywydd arferol
Mae gan weithredwyr rhwydwaith 12 neu 24 awr i ailgysylltu eich pŵer.
Os yw'r toriad pŵer yn effeithio ar lai na 5,000 o eiddo, a'ch bod heb bŵer am 12 awr neu fwy, gallwch hawlio:
- £95 fel cwsmer domestig
- £180 fel cwsmer annomestig
- Gallwch gael £40 ychwanegol am bob 12 awr ychwanegol o fod heb drydan, hyd at gyfanswm o £360
Os yw'r toriad pŵer yn effeithio ar fwy na 5,000 o eiddo, a'ch bod heb bŵer am 24 awr neu fwy, gallwch hawlio:
- £95 fel cwsmer domestig
- £180 fel cwsmer annomestig
- Gallwch gael £40 ychwanegol am bob 12 awr ychwanegol o fod heb drydan, hyd at gyfanswm o £360
Os cewch eich torri i ffwrdd fwy na phedair gwaith y flwyddyn am o leiaf dair awr bob tro, gallwch hawlio £95 ychwanegol fel cwsmer domestig neu annomestig.
Mae'r flwyddyn yn rhedeg o 1 Ebrill tan 31 Mawrth.
Iawndal am doriadau pŵer mewn tywydd garw
Bydd pryd y gallwch hawlio yn dibynnu ar y ffordd y bydd Ofgem yn categoreiddio stormydd mewn tywydd garw.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Ofgem.
Rhagor o help
Gall Cyngor ar Bopeth helpu os bydd angen cymorth arnoch.
Cyngor ar Bopeth
- Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch y cyfleuster gwe-sgwrsio.
- Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rif y llinell gymorth.
Caiff gweithredwyr rhwydwaith eu rheoleiddio gan Ofgem. Ofgem sy'n pennu’r safonau gwasanaeth y mae’n rhaid i weithredwyr rhwydwaith eu cyrraedd. Mae’r rhain yn cynnwys rheolau ar ba mor gyflym y mae'n rhaid i weithredwyr adfer y cyflenwad mewn tywydd arferol a thywydd garw, ac iawndal y bydd defnyddwyr yn ei gael os na chaiff y safonau eu cyrraedd. Mae rhagor o wybodaeth am iawndal ar gael ar wefan Ofgem.