Rhoi gwybod am doriad pŵer
Y ffordd gyflymaf o roi gwybod am doriad pŵer yw gwneud hynny ar-lein.
Er mwyn gwneud yn siŵr y cewch chi eich ailgysylltu cyn gynted â phosibl, ewch i wefan eich gweithredwr rhwydwaith lleol i roi gwybod am eich toriad pŵer. Gallwch weld pwy yw eich gweithredwr rhwydwaith lleol drwy roi eich cod post i mewn isod. Pan fyddwch ar wefan y gweithredwr, chwiliwch am yr opsiwn i roi gwybod am doriad pŵer.
Chwilio am eich gweithredwr rhwydwaith trydan
Rhowch eich cod post a phwyswch ‘Chwilio’
*Maes gofynnol
Gwell gennych chi ffonio?
Mynd ar-lein yw'r ffordd gyflymaf o roi gwybod am doriad pŵer a chael y wybodaeth ddiweddaraf. Os na allwch roi gwybod am y toriad pŵer ar-lein, ffoniwch 105. Rhif am ddim yw hwn, a bydd yn eich cysylltu â’ch gweithredwr rhwydwaith lleol ym Mhrydain Fawr.
Wedi sylwi ar rywbeth peryglus?
Weithiau, gall llinellau pŵer gwympo mewn tywydd garw.
1.
Cadwch mor bell â phosibl oddi wrth y perygl. Cofiwch: gall trydan ‘neidio’ drwy’r awyr.
2.
Os bydd risg uniongyrchol i fywyd neu os bydd rhywun mewn perygl, ffoniwch 999.
3.
Cadwch bobl eraill mor bell â phosibl oddi wrth y perygl, ond peidiwch â’ch rhoi chi eich hun mewn perygl.
4.
Cysylltwch â’r gweithredwr rhwydwaith trydan lleol ar unwaith. Ffoniwch 105 am ddim.